Os oes gennych chi syniad am ddigwyddiad ond nad oes gennych leoliad,
Cerbyd Symudol gyda Llwyfan
Deallwn nad pawb sy'n meddu ar y cyfleusterau neu leoliad i gynnal digwyddiadau, felly mae ein cerbyd symudol gyda llwyfan yn ateb perffaith.
Does dim llawer o waith egluro'r cyfarpar hwn. Gydag uchder o 6.4 metr a lled o 4.2 metr, gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le ac yn unrhyw dywydd, gan fod to amdano. Gyda generadur ar gyfer un o'n systemau sain a goleuo a'r golau LED a chefndir sêr sydd ynghlwm â'r cyfarpar, mae'n ddelfrydol ar gyfer bandiau mewn cae, carnifal stryd, rhoi goleuadau Nadolig ymlaen, a digwyddiadau chwaraeon a chymunedol.
Ar ddiwedd y dydd, caiff y llwyfan ei gadw a chaiff yr injan ei thanio - dim trafferth!