Am ragor o wybodaeth ynghylch sut allwn ni eich helpu chi gyda'r gwaith gosod,
Gwaith Gosod
Os oes gennych chi leoliad ond nad oes gennych gyfarpar ac rydych yn ystyried gosod system sain a goleuo broffesiynol, llenni theatrig neu ddatrysiad sain a fideo cymhleth, yna bydd angen ein harbenigedd ni arnoch.
Mae gennym gyfoeth o brofiad o waith gosod mewn sefydliadau bach a mawr, megis gwestai, eglwysi, ysgolion a cholegau, bariau a chlybiau, neuaddau arddangos a swyddfeydd yn ogystal â neuaddau pentref, capeli gorffwys, traciau rasio a chestyll.
Rydym yn gwbl fedrus wrth weithio gydag Adeiladau Rhestredig, yn ogystal â hen adeiladau, adeiladau newydd a rhai unigryw hefyd. Dewiswn y cyfarpar gorau wrth weithio gyda dyluniad yr adeilad i sicrhau nad oes unrhyw beth yn edrych o'i le. Gallwn hefyd weithio i'ch cyllideb, ac mae prisiau gostyngol masnach yn un arall o'n manteision lu.
Codwch y ffôn a byddwn yn fwy na bodlon ymweld â'ch lleoliad a thynnu ar ein profiad i argymell y cyfarpar gorau ar gyfer eich anghenion. Rydym yn sicrhau y gallwn weddnewid unrhyw safle yn lleoliad o'r radd flaenaf.
Os oes gennych chi system eisoes yn ei lle a hoffech ei diweddaru, gallwn drafod eich anghenion a'ch opsiynau gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Ymgynghori.