Er mwyn i ni drefnu i'ch cyfarfod chi i drafod eich digwyddiad a'ch gofynion i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol,
Cyngherddau a Gwyliau
Mae pob mathau o gyngherddau a gwyliau yn cael eu cynnal a chyda dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu cyfarpar ar gyfer cynyrchiadau cerddorol, rydym yn sicrhau na fydd gwasanaeth cystal â ni i'w gael.
Mae gennym y systemau sain a goleuo mwyaf o ran maint a mwyaf datblygedig yng ngogledd Cymru a gallwn ddarparu popeth, o system sain fach gydag un peiriannydd i griw cyfan er mwyn cynnal llwyfan ar raddfa lawn gyda datrysiadau sain, goleuo a fideo.
A ninnau wedi gweithio ochr yn ochr â'r bandiau Cymraeg a Saesneg gorau mewn amrywiaeth o leoliadau, o neuaddau cymuned i gaeau a chestyll i feysydd parcio, gallwn eich sicrhau bod ein hystod o becynnau cynhwysfawr yn ddigon amrywiol i fodloni gofynion unrhyw ddigwyddiad, gig, gŵyl neu gyngerdd.
Rydym hefyd yn arbenigwyr o ran darparu systemau sain awyr agored o'r ansawdd orau ar gyfer sioeau tân gwyllt proffesiynol gan ddefnyddio pecyn meddalwedd FireOne.
Gwrandewch ar yr hyn sydd gan ein cwsmeriaid i'w ddweud yn ein cylch, drwy bwyso yma.