I drafod eich digwyddiad gyda ni,
Digwyddiadau Cymunedol
Boed ydych yn ysgol sy'n trefnu ffair neu fabolgampau, cymuned leol eisiau cynnal ffair bentref, neu drefnwyr gŵyl fwyd, eich bod awydd cynnal digwyddiad mawr i godi arian neu'ch bod angen cegin arddangos, rydym yn arbenigwyr i'ch helpu chi i sicrhau bod eich digwyddiad cymuned yn llwyddiant ysgubol.
Gallwn arlwyo ar gyfer pob math o fathau a meintiau o ddigwyddiadau ac mae gennym ystod o wasanaethau a all ein helpu ni i deilwra ein gwasanaeth i fodloni'ch anghenion, boed hynny'n un microffon gyda system sain neu lwyfan gyda system sain a goleuo lawn.
Rydym hefyd yn arbenigwyr o ran darparu system sain awyr agored o ansawdd ar gyfer sioeau tân gwyllt proffesiynol gan ddefnyddio pecyn meddalwedd FireOne, felly os ydych chi'n cynllunio sioe tân gwyllt ac eisiau i'ch digwyddiad greu argraff arbennig, yna sioe sy'n cyd-fynd â cherddoriaeth yw'r ffordd orau o blesio'r dorf.
Gallwn hefyd eich helpu chi gyda'r cynhyrchiad, adroddiadau iechyd a diogelwch, asesiadau risg a sicrhau eich bod yn bodloni'r holl ddeddfwriaeth ofynnol.
Os ydych chi'n poeni am yr amser sydd gennych chi i godi a chadw'r cyfarpar, yna cewch ymlacio gan ein bod ni wedi hen arfer gosod, cynnal digwyddiadau a chadw cyfarpar mewn un diwrnod - yn amlwg yn dibynnu ar faint y digwyddiad!